2014 Rhif 3079 (Cy. 304)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Labelu Pysgod (Cymru) (Diwygio) 2014

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Labelu Pysgod (Cymru) 2013 (“Rheoliadau 2013”) er mwyn gorfodi gofynion gwybodaeth i ddefnyddwyr Pennod IV o Reoliad (EU) Rhif 1379/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar gyd-drefniadaeth y marchnadoedd mewn cynhyrchion pysgodfeydd a dyframaethu (OJ Rhif L 354, 28.12.2013, t 1) fel y’i darllenir ar y cyd â Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1224/2009 (OJ Rhif L 343, 22.12.2009, t 1).

Mae rheoliad 2 yn diwygio rheoliad 2 o Reoliadau 2013 i ddileu’r cyfeiriadau at Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 104/2000 a Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EC) Rhif 2065/2001 a’r diffiniadau ohonynt. Mae Rheoliadau (EC) Rhif 104/2000 ac (EC) Rhif 2065/2001 wedi eu diddymu gan Reoliad (EU) Rhif 1379/2013 (OJ Rhif L 354, 28.12.2013, t 1) a Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 1420/2013 (OJ Rhif L 353, 28.12.2013, t 48).

Mae rheoliad 2 hefyd yn darparu bod “gofyniad gwybodaeth i ddefnyddwyr” at ddiben Rhan 2 o Reoliadau 2013 yn ofyniad a bennir yn Erthygl 35 o Reoliad (EU) Rhif 1379/2013 (gwybodaeth fandadol i’w darparu i ddefnyddwyr) fel y’i darllenir ar y cyd ag Erthygl 38 (mynegiad o gylch y ddalfa neu’r ardal gynhyrchu) ac Erthygl 39 (darparu gwybodaeth wirfoddol) o’r Rheoliad hwnnw.

Mae’r wybodaeth sydd i’w darparu yn galluogi defnyddwyr i ddeall pa rywogaethau o bysgod y maent yn eu prynu, pa un a oedd y pysgod wedi eu dal neu eu ffermio, ac ymhle y cafodd y pysgod eu dal neu eu ffermio. Mae’r wybodaeth hefyd yn dangos os yw’r pysgod neu gynnyrch pysgod wedi eu dadmer a pharhauster lleiaf y cynnyrch. Yn ogystal, mae’n sicrhau bod unrhyw wybodaeth a ddarperir yn wirfoddol yn glir ac yn ddiamwys ac y gellir ei dilysu.

Mae rheoliad 2 hefyd yn diwygio’r diffiniad o “gofyniad gallu i olrhain” at ddiben Rhan 2 o Reoliadau 2013 i roi sylw i’r gofyniad yn Erthygl 58(5) o Reoliad (EC) Rhif 1224/2009, fel y’i diwygiwyd gan Erthygl 45(2) o Reoliad (EU) Rhif 1379/2013, i roi’r wybodaeth sy’n ofynnol o dan Erthygl 35 o’r Rheoliad hwnnw.

Mae rheoliad 3 yn sicrhau bod y cyfeiriadau at Reoliadau 2013 yn yr addasiadau a wnaed gan y Rheoliadau hynny i ddarpariaethau Deddf Diogelwch Bwyd 1990 (fel y maent yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hynny) yn gyfeiriadau at Reoliadau 2013 fel y’u diwygir gan y Rheoliadau hyn. 

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn: Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru, Llawr 11, Tŷ Southgate, Stryd Wood, Caerdydd, CF10 1EW neu ar wefan yr Asiantaeth yn http://www.food.gov.uk/wales/about-fsa-wales/cymru.


2014 Rhif 3079 (Cy. 304)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Labelu Pysgod (Cymru) (Diwygio) 2014

Gwnaed                            19 Tachwedd 2014

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru       20 Tachwedd 2014

Yn dod i rym                        13 Rhagfyr 2014

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972([1]) mewn perthynas â mesurau sy’n ymwneud â bwyd([2]) ac mewn perthynas â’r polisi amaethyddol cyffredin([3]), ac yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(1)([4]), 17(2)([5]), 26(1)(a) a (3)([6]) a 48(1)([7]) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990([8]), a pharagraff 1A o Atodlen 2 i Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972([9]).

I’r graddau y mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud drwy arfer pwerau o dan Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990, mae Gweinidogion Cymru wedi rhoi sylw i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn unol ag adran 48(4A) o’r Ddeddf honno([10]).

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972, ac mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i gyfeiriadau at y Rheoliadau a ganlyn yn y Rheoliadau hyn gael eu dehongli fel cyfeiriadau at y Rheoliadau hynny fel y’u diwygir o bryd i’w gilydd—

(a)     Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1224/2009 sy’n sefydlu system o reolaeth Gymunedol er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau’r polisi pysgodfeydd cyffredin([11]);

(b)     Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 404/2011 sy’n gosod rheolau manwl ar gyfer gweithredu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1224/2009 sy’n sefydlu system o reolaeth Gymunedol er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau’r polisi pysgodfeydd cyffredin([12]); ac

(c)     Rheoliad (EU) Rhif 1379/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar gyd-drefniadaeth y marchnadoedd mewn cynhyrchion pysgodfeydd a dyframaethu, sy’n diwygio Rheoliadau’r Cyngor (EC) Rhif 1184/2006 ac (EC) Rhif 1224/2009 ac sy’n diddymu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 104/2000([13]).

Fel sy’n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd([14]), ymgynghorwyd yn agored ac yn dryloyw â’r cyhoedd wrth lunio a gwerthuso’r Rheoliadau hyn.

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.(1)(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Labelu Pysgod (Cymru) (Diwygio) 2014.

(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

(3) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 13 Rhagfyr 2014.

Diwygio Rheoliadau Labelu Pysgod (Cymru) 2013

2.—(1) Mae Rheoliadau Labelu Pysgod (Cymru) 2013([15]) wedi eu diwygio yn unol â pharagraffau (2) a (3).

(2) Yn lle rheoliad 2(1), rhodder—

2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “Rheoliadau’r UE” (“the EU Regulations”) yw Rheoliad 1224/2009, Rheoliad 404/2011 a Rheoliad 1379/2013;

ystyr “Rheoliad 1224/2009” (“Regulation 1224/2009”) yw Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1224/2009 sy’n sefydlu system o reolaeth Gymunedol er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau’r polisi pysgodfeydd cyffredin;

ystyr “Rheoliad 404/2011” (“Regulation 404/2011”) yw Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 404/2011 sy’n gosod rheolau manwl ar gyfer gweithredu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1224/2009 sy’n sefydlu system o reolaeth Gymunedol er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau’r polisi pysgodfeydd cyffredin;

ystyr “Rheoliad 1379/2013” (“Regulation 1379/2013”) yw Rheoliad (EU) Rhif 1379/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar gyd-drefniadaeth y marchnadoedd mewn cynhyrchion pysgodfeydd a dyframaethu.”

(3) Yn rheoliad 4 (gofynion gwybodaeth i ddefnyddwyr a gallu i olrhain)—

(a)     ym mharagraff (1)(a), yn lle “(4) i” rhodder “(6) a”;

(b)     ym mharagraff (2), yn lle is-baragraff (a) rhodder—

(a) gofyniad a bennir yn Erthygl 35 o Reoliad 1379/2013 (darparu gwybodaeth i ddefnyddwyr) fel y’i darllenir ar y cyd ag Erthygl 38 o’r Rheoliad hwnnw, a gofyniad fel a bennir yn Erthygl 39(3) neu (4) o Reoliad 1379/2013 fel y’i darllenir ar y cyd â pharagraff (1) o’r Erthygl honno;;

(c)     ym mharagraff (3), yn lle “ac Erthygl 67(1) i (3) a (5) i (13) o Reoliad 404/2011” rhodder “, Erthygl 67(1) i (3) a (5) i (13) o Reoliad 404/2011 ac Erthyglau 35(1)(c) a 38 o Reoliad 1379/2013”;

(d)     hepgorer paragraffau (4) a (5);

(e)     yn lle paragraff (6) rhodder—

(6) Nid yw’r gofyniad y cyfeirir ato ym mharagraff (2)(a) yn gymwys o dan yr amgylchiadau a ddisgrifir yn Erthygl 35(4) o Reoliad 1379/2013, fel y’i darllenir ar y cyd ag Erthygl 58(8) o Reoliad 1224/2009.

Cyfeiriadau at Reoliadau Labelu Pysgod (Cymru) 2013

3. Mae’r cyfeiriadau at Reoliadau Labelu Pysgod (Cymru) 2013 yn rheoliadau 5(3), 6(2) a 7(2) o’r Rheoliadau hynny, a pharagraffau 1 a 2(b) o’r Atodlen iddynt, i’w dehongli fel cyfeiriadau at Reoliadau Labelu Pysgod (Cymru) 2013 fel y’u diwygir gan y Rheoliadau hyn.

 

 

 

Mark Drakeford

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

19 Tachwedd 2014

 



([1])           Diwygiwyd adran 2(2) gan adran 27(1)(a) o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (p. 51) ac adran 3(3) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Diwygio) 2008 (p. 7) a Rhan 1 o’r Atodlen iddi.

([2])           O.S. 2005/1971. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru gan baragraffau 28 a 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).

([3])           O.S. 2010/2690.

([4])           Diwygiwyd adran 16(1) gan adran 40(1) o Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (p. 28), a pharagraffau 7 ac 8 o Atodlen 5 iddi.

([5])           Diwygiwyd adran 17(2) gan adran 40(1) o Ddeddf Safonau Bwyd 1999, a pharagraffau 7, 8 a 12 o Atodlen 5 iddi, ac O.S. 2011/1043.

([6])           Diddymwyd adran 26(3) yn rhannol gan adran 40(4) o Ddeddf Safonau Bwyd 1999 ac Atodlen 6 iddi.

([7])           Diwygiwyd adran 48(1) gan adran 40(1) o Ddeddf Safonau Bwyd 1999 a pharagraffau 7 ac 8 o Atodlen 5 iddi.

([8])           1990 p. 16. Trosglwyddwyd swyddogaethau a oedd gynt yn arferadwy gan “the Ministers”, i’r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan O.S. 1999/672 fel y’i darllenir ar y cyd ag adran 40(3) o Ddeddf Safonau Bwyd 1999, ac fe’u trosglwyddwyd wedi hynny i Weinidogion Cymru gan adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.

([9])           1972 p. 68. Mewnosodwyd paragraff 1A o Atodlen 2 gan adran 28 o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006.

([10])         Mewnosodwyd adran 48(4A) gan adran 40(1) o Ddeddf Safonau Bwyd 1999 a pharagraffau 7 ac 21 o Atodlen 5 iddi.

([11])         OJ Rhif L 343, 22.12.2009, t 1 fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan OJ Rhif L 149, 20.05.2014, t 1.

([12])         OJ Rhif L 112, 30.4.2011, t 1.

([13])         OJ Rhif L 354, 28.12.2013, t 1, fel y’i diwygiwyd gan OJ Rhif L 354, 28.12.2013, t 86.

([14])         OJ Rhif L 31, 1.2.2002, t 1, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan OJ Rhif L 189, 27.06.2014, t 1.

([15])         O.S. 2013/2139 (Cy. 209).